O'n i byth am fynd i'r eglwys Nac i'r ysgol yn y glaw. O'n i ddim am syllu ar Shakespeare Dim ond rhoi fy llaw yn ei llaw. Doeddwn i ddim eisiau gweiddi Lawr meicroffon am bres, Jyst byw drws nesaf i'r ferch fach A toddi yn ei gwres. Sai am rhodio ar y lleuad Sai am cael gwyliau dros y byd, Jyst ambell waith, nawr ac yn y man, Ei dal hi, dyna i gyd. Sai am chwysu am yr arian, Sai am gyrru car i'r gwaith, Jest eistedd dan fy nenfwd A chysgu ar ei thraeth. Doeddwn i ddim eisiau dysgu darllen Na rhoi label ar bob peth, O'n i ddim am siarad ieithoedd Mae pob iaith yr un peth. O'n i ddim am cynllunio O'n i ddim am cyfri'r gost, O'n i ddim am fynd i'r meddyg Efe oedd yr un tost. Rwy'n ymddeol o'r gorffenol Ac rwy'n cysgu yn y dydd, Rwy'n osgoi Bedlam bywyd, Mae fy Mhrydain i yn rhydd. O'n i byth am eillio Na gwthio peiriant torri gwair, O'n i byth am ateb cwestiwn O'n i byth am ysgrifennu gair. O'n i byth am fynd i'r eglwys Nac i'r ysgol yn y glaw, O'n i byth am syllu ar Shakespeare Dim ond rhoi fy llaw yn ei llaw.